dcsimg

Llus ( Welsh )

provided by wikipedia CY

Planhigion bychain ac iddynt ffrwythau blasus yw Llus neu lusi duon bach (Lladin: Vaccinium myrtillus). Maent yn tyfu ar dir llaith, asidig trwy rannau o'r byd gyda hinsawdd gymhedrol.

Cesglir y ffrwythau o'r planhigyn gwyllt er mwyn eu bwyta, on nodweddiadol felly yn y Llychlyn, yr Alban, Iwerddon a Gwlad Pwyl. Yn Llychlyn, mae'n hawl i bawb hel llus, waeth pwy sy'n berchen ar y tir maent yn tyfu arno. Yn Iwerddon, gelwir y ffrwyth fraochán yn y Wyddeleg a fraughan yn y Saesneg, ac fe'u cesglir yn draddodiadol, ar y dydd sul olaf yng Ngorffennaf, a gelwir yn Fraughan Sunday.

Gellir bwyta'r ffrwythau'n ffres, neu eu defnyddio i wneud jam, sudd neu bastai. Yn Ffrainc, fe'u defnyddir yn sail i wirodlynnau, ac i roi flas i sorbet, a'r tarte aux myrtilles yw'r pwdin traddodiadol yn y Vosges a'r Massif Central. Yn Llydaw, caent eu bwyta gyda Crêpes. Mae hel llus ar y mynydd ar ddiwedd yr haf yn arfer poblogaidd hyd heddiw mewn rhannau o Gymru, e.e. yn Eryri, er ei bod hi'n cymryd amser i hel digon o'r ffrwythau bychain i wneud teisen blasus. Mis Awst yw'r amser gorau i hel llus.

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
license
cc-by-sa-3.0
copyright
Awduron a golygyddion Wikipedia
original
visit source
partner site
wikipedia CY