Coeden sitrws fechain yw'r Oren Mandarin (Citrus reticulata), a adnabyddir yn gyffredin fel Mandarin, sydd â ffrwyth sy'n debyg i orennau eraill. Mae'r ffrwyth yn siap byrgrwn yn hytrach na sfferig. Bwytir orennau mandarin yn gyffredin fel y maent heb y croen, neu mewn salad ffrwythau. Caiff rhai mandariniaid lliw oren-goch eu gwerthu fel tangerine, ond nid yw hyn yn ddosbarthiad botangeol.