dcsimg

Lestidae ( Welsh )

provided by wikipedia CY

Teulu bychan o fursennod - bychan o ran nifer ond mawr o ran maint corfforol - yw Teulu'r Mursennod neu yn Lladin: Lestidae. Mae'r teulu'n rhan o Urdd yr Odonata (sydd hefyd yn cynnwys y gwas neidr) a chant eu galw yn Saesneg yn spreadwings. Y ddau isdeulu yw: Lestinae a Sympecmatinae. Un o'u nodweddion pennaf yw eu bod yn gorffwys gyda'u hadenydd yn gilagored. Ceir anghytundeb am eu tacsonomeg gyda rhai awdurdodau'n mynnu y ceir 12 genera[1] ac eraill yn mynnu bod 8.[2]

Paru

Mae nhw'n paru mewn llif nant neu afon, rhostir, gwlyptiroedd neu byllau o ddŵr. Ceir un cenhedlaeth pob blwyddyn, fel rheol.[3]

Mae'r genera'n cynnwys:

Cyfeiriadau

  1. Davies, D.A.L. (1981). A synopsis of the extant genera of the Odonata. Soc. Int. Odonatol. 3 : i-xiv 1-59
  2. Bridges, C.A. (1994). Catalogue of the family-group, genus-group and species-group names of the Odonata of the world, 3e éd.. Urbana, Illinois. xiv 951 tt.
  3. John L. Capinera (2008). Encyclopedia of Entomology. Springer Science & Business Media. p. 1244. ISBN 978-1-4020-6242-1.

Gweler hefyd

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
license
cc-by-sa-3.0
copyright
Awduron a golygyddion Wikipedia
original
visit source
partner site
wikipedia CY

Lestidae: Brief Summary ( Welsh )

provided by wikipedia CY

Teulu bychan o fursennod - bychan o ran nifer ond mawr o ran maint corfforol - yw Teulu'r Mursennod neu yn Lladin: Lestidae. Mae'r teulu'n rhan o Urdd yr Odonata (sydd hefyd yn cynnwys y gwas neidr) a chant eu galw yn Saesneg yn spreadwings. Y ddau isdeulu yw: Lestinae a Sympecmatinae. Un o'u nodweddion pennaf yw eu bod yn gorffwys gyda'u hadenydd yn gilagored. Ceir anghytundeb am eu tacsonomeg gyda rhai awdurdodau'n mynnu y ceir 12 genera ac eraill yn mynnu bod 8.

license
cc-by-sa-3.0
copyright
Awduron a golygyddion Wikipedia
original
visit source
partner site
wikipedia CY