dcsimg

Teim gwyllt ( Welsh )

provided by wikipedia CY

Gruwlys yw'r gair cywir yn y Gymraeg am hyn. Gair llwg o'r Saesneg yw 'teim'.

Planhigyn blodeuol dyfrol yw Gruwlys sy'n enw gwrywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Lamiaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Thymus polytrichus a'r enw Saesneg yw Wild thyme.[1] Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Gruw Gwyllt, Gruwlys Gwyllt, Gruwlys Gwyllt Lleiaf. Yn anffodus, defnyddir teim fel arfer gan bobl nad ydynt yn gwybod y gair Cymraeg am 'gruwlyus'.

Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn tyfu mewn cynefinoedd oer a thymherus (neu gynnes) yn hemisffer y Gogledd a'r De fel y'i gilydd.

Llenyddiaeth

Dyma drosiad Gwyn Thomas o eiriau Shakespeare ym Midsummer Night’s Dream (Breuddwyd Nos Wyl Ifan) a’r cyfeiriad at y teim:

"Mi wn am lain lle tyf y teim yn wyrdd,
A llysiau'r parlys, fioledau fyrdd,
A glwys yn do i'r fan mae gwyddfid pêr,
Miaren Mair a rhosys dan y sêr."

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. Gerddi Kew; adalwyd 21 Ionawr 2015
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
license
cc-by-sa-3.0
copyright
Awduron a golygyddion Wikipedia
original
visit source
partner site
wikipedia CY