dcsimg

Cordog ( الويلزية )

المقدمة من wikipedia CY

Anifail sy'n perthyn i'r ffylwm Chordata yw cordog (hefyd: cordat). Mae gan gordogion (rywbryd yn eu bywyd) notocord, llinyn nerfol cefnol, agennau ffaryngol a chynffon sy'n ymestyn tu hwnt i'r anws.

Mae'r cordogion yn cynnwys y fertebratau (pysgod, amffibiaid, ymlusgiaid, adar a mamolion) a dau grŵp o infertebratau (chwistrellau môr a physgod pengoll). Mae safngrynion yn cael eu dosbarthu weithiau fel fertebratau, weithiau mewn grŵp gwahanol.

ترخيص
cc-by-sa-3.0
حقوق النشر
Awduron a golygyddion Wikipedia
النص الأصلي
زيارة المصدر
موقع الشريك
wikipedia CY