dcsimg
Unresolved name

Vaccinium subgen. Oxycoccus

Llugaeron ( Welsh )

provided by wikipedia CY

Grŵp o blanhigion bythwyrdd gyda ffrwythau bychain, coch arnynt yw Llugaeron. Maen't i'w canfod mewn corsiau asidig yn ardaloedd oerach yr Hemisffer Gogleddol. Mae'r planhigion yn tyfu ar ffurf llwyni bychain 5–20 cm o daldra, neu winwydd sy'n cropian yn llorweddol hyd at 2 m o hyd.[1] Mae gan y planhigion goesau tenau caled gyda dail bychain gwyrdd.

Mae'r blodau yn binc tywyll gyda phetalau arbennig sy'n atblygu gan adael y styl a'r briger yn hollol agored ac yn pwyntio allan o'r planhigyn. Cânt eu peillio gan wenyn mêl cyffredin. Mae'r ffrwyth yn aeron epigynol sydd yn fwy na maint dail y planhigyn; mae'r aeron yn wyn i gychwyn ond yn troi'n goch tywyll wrth iddynt aeddfedu. Mae'r ffrwyth yn fwytadwy ac mae ganddo flas asidig sy'n gallu gorlethu'r melysrwydd.

Rhinweddau meddygol

Credir ei fod yn dda at lid y bledren (cystitis).

Cyfeiriadau

  1. (Saesneg) About Cranberries. Cranberry Institute.

Gweler hefyd

license
cc-by-sa-3.0
copyright
Awduron a golygyddion Wikipedia
original
visit source
partner site
wikipedia CY

Llugaeron: Brief Summary ( Welsh )

provided by wikipedia CY

Grŵp o blanhigion bythwyrdd gyda ffrwythau bychain, coch arnynt yw Llugaeron. Maen't i'w canfod mewn corsiau asidig yn ardaloedd oerach yr Hemisffer Gogleddol. Mae'r planhigion yn tyfu ar ffurf llwyni bychain 5–20 cm o daldra, neu winwydd sy'n cropian yn llorweddol hyd at 2 m o hyd. Mae gan y planhigion goesau tenau caled gyda dail bychain gwyrdd.